Sefydlwyd yr eglwys arbennig hon yn 1868 gan Herman Lunde o Oslo, yr hynaf ym Mhrydain i gael ei sefydlu gan Genhadaeth y Morwyr Norwyaidd. Roedd yn ganolfan ar gyfer crefydd, diwylliant a thraddodiadau Sgandinafaidd yr ardal, gyda phapurau dyddiol a chylchgronau Sgandinafaidd, ynghyd â chyfleusterau i gynorthwyo’r morwyr ysgrifennu i’w hanwyliaid nôl yn Norwy. Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, estynnwyd croeso bob blwyddyn i hyd at 70,000 o forwyr, a chynhaliwyd nosweithiau cymdeithasol rheolaidd, lle roedd morwyr yn gallu ymlacio a chyfathrebu ag eraill yn eu hiaith eu hunain.
Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, bu dirywiad yn y diwydiant allforio glo yng Nghymru, ac o ganlyniad, bu gostyngiad gyfatebol yn nifer y llongau Norwyaidd, gan iddynt droi at wledydd eraill am gyfleoedd masnachu. Serch hyn, parhaodd y gynulleidfa leol i ddefnyddio’r eglwys nes iddi orfod cau, a chafodd ei datgysegru yn 1974.
Yn 1987, sefydlwyd Ymddiriedolaeth Cadwraeth yr Eglwys Norwyaidd, er mwyn ei hailadeiladu a diogelu ei dyfodol. Ailagorwyd yr adeilad gan y Dywysoges Martha Louise o Norwy yn 1992. Mae’r adeilad bellach yn ganolfan gelfyddydau a siop goffi.
Mae’r model llong sy’n hongian o’r nenfwd yn yr Ystafell Greig yn rhodd gan Eglwys Norwyaidd Lerpwl. Mae’r llong yn symbol o daith bywyd ac oherwydd hyn, mae’n wynebu’r allor o hyd. Mae’r ffenestr liw wedi ei chyflwyno er cof am Huw Roger Allan, is-gadeirydd Ymddiriedolaeth Cadwraeth yr Eglwys Norwyaidd. Mae ffenestr y pysgod yn cynrychioli hanes yr eglwys a’i chysylltiad â’r morwyr Norwyaidd.
Rhoddwyd y Gofeb i Forwyr Norwyaidd gan gangen De Orllewin Prydain y Gymdeithas Hen Filwyr Norwyaidd. Cyflwynwyd y darian yn rhodd o ddiolch i Fugail yr eglwys, Rolf Rassmussen. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd pan feddiannwyd Norwy gan y Natsïaid, bu’r eglwys o gymorth mawr i forwyr llynges masnachol Norwy, oherwydd eu hanallu i ddychwelyd i’w mamwlad.
Daethpwyd o hyd i’r angor a’r rhwyfau ar ffurf croes o dan gorff yr eglwys. Credir i’r rhwyfau ddod o fad achub llong hwylio Norwyaidd. Daethpwyd o hyd hefyd i angor fach ac arddangosir hon bellach oddi fewn i’r adeilad i gofio am dreftadaeth forol yr eglwys.
Roald Dahl
Priododd Harald â Sofie Dahl yn 1911, gan ymgartrefu yn Llandaf, Caerdydd. Wedi ei eni yn 1916, treuliodd Roald Dahl ei blentyndod yn y brifddinas, lle roedd ei deulu’n addoli yn yr Eglwys Norwyaidd. Bedyddiwyd plant y teulu yn yr eglwys, ac mae powlen fedydd y teulu bellach i’w gweld yn y Galeri Dahl.