
Dewch i gwrdd â Gareth
“Shwmae, rwy’n byw yn Ne Cymru, gyda chysylltiadau cryf â Cheredigion a Sir Benfro. Cymro Cymraeg ail iaith ydw i, gyda gwybodaeth dda o Gymru gyfan, o fynd ar daith a cherdded ar y bryniau, sy’n ddiddordeb brwd. Mae gen i 20 mlynedd o brofiad o waith cefnogi a datblygu cymunedol, gan weithio gyda phrosiectau llawr gwlad a gwirfoddolwyr. Mae hyn yn cynnwys y sectorau ffydd, cefn gwlad, bwyd a diod, gofal plant ac addysg. Rwy’n edrych ymlaen at fynd allan a chwrdd â chi yn eich eglwys, eich capel a’ch cymuned.”