Four people in high-vis jackets and hard hats stand by a church

Cherish – cymorth ar gyfer adeiladau eglwysig – yn helpu mwy na 250 o eglwysi yn ei flwyddyn gyntaf

Mae eglwysi, capeli a thai cyrddau mewn perygl difrifol o gau ac felly mae’n bwysig edrych ar atebion creadigol i sicrhau bod yr adeiladau hyn yn cael eu cadw ar agor a’u bod yn cael eu defnyddio am genedlaethau i ddod. Mae Cherish yn ein helpu i dargedu cymorth at feysydd allweddol lle rydym mewn perygl mawr o golli treftadaeth amhrisiadwy. 

Trwy dri swyddog cymorth pwrpasol sydd wedi’u lleoli yn yr Alban, Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr (Manceinion Fwyaf, Swydd Gaerhirfryn a Cumbria), rhoddir cyngor a hyfforddiant i eglwysi ynghylch grantiau a chynnal a chadw, fel y gallant gadw eu mannau addoli mewn cyflwr da. Rhoddir cefnogaeth hefyd i helpu eglwysi i agor eu hadeiladau i ymwelwyr a thwristiaid, fel y gall hyd yn oed mwy o bobl fwynhau'r dreftadaeth wych sydd gan yr eglwysi hyn i'w chynnig. 

Hefyd, mae grantiau Cherish rhwng £500 a £10,000 ar gael, a all ariannu mân atgyweiriadau a gwaith cynnal a chadw i helpu i gadw eglwysi mewn cyflwr da ac i atal atgyweiriadau drud. 

Ers i’r prosiect ddechrau flwyddyn yn ôl, mae 30 o grantiau gwerth cyfanswm o fwy na £200,000 wedi’u rhoi i eglwysi. Hefyd, ymwelodd swyddog cymorth lleol â 150 o eglwysi, capeli a thai cyrddau i helpu gyda gwaith atgyweirio, prosiectau a chyngor twristiaeth. Yn ogystal, mae 100 o eglwysi eraill wedi cael cymorth dros y ffôn. 

“Mae ein hymchwil House of Good yn dangos bod eglwysi yn darparu £55 biliwn o fudd economaidd a chymdeithasol bob blwyddyn. Mae eglwysi hefyd yn lleoedd pwysig i’r gymuned, nid dim ond treftadaeth unigryw,” meddai Claire Walker, Prif Weithredwr yr Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol. 

“Drwy weithio mewn partneriaeth â Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, gallwn gyfeirio cymorth i’r mannau lle mae ei angen fwyaf a helpu i gadw eglwysi, capeli a thai cyrddau ar agor ac mewn cyflwr da.” 

A group of six people stand inside Charnock Richard Christ Church

 

Gweithio mewn partneriaeth i helpu mannau addoli i ffynnu 

“Mae mannau addoli yn rhai o adeiladau mwyaf hanesyddol y DU sydd yn aml wrth galon cymunedau,” meddai Eilish McGuinness, Prif Weithredwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. 

“Mae llawer o heriau yn wynebu’r lleoedd hyn, rhai yn newydd ac eraill ers tro. Mae’r Gronfa Dreftadaeth wedi lansio strategaeth dair blynedd newydd ar gyfer mannau addoli sy’n ein hymrwymo i weithio gyda phawb sy’n pryderu am eu dyfodol i sicrhau eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, y gofalir amdanynt a’u bod yn cael eu cynnal i bawb. 

“Rydym yn falch iawn o gefnogi rhaglen Cherish ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda sefydliadau eraill ar draws y DU i ddatblygu eu hymyriadau strategol eu hunain ar gyfer mannau addoli a mynd i’r afael â’r problemau y maent yn eu hwynebu.” 

 

Cyfle i glywed gan yr eglwysi sy’n cael eu helpu 

Annog eglwysi i aros ar agor yn yr Alban 

Four people sit on a pew, facing the camera, in RCCG Church, Edinburgh
Chris Hoskins / National Churches Trust

 

Prynodd Eglwys Brenin y Gogoniant, sy’n rhan o Redeemed Christian Church of God (RCCG) yng Nghaeredin un o adeiladau gadawedig Eglwys yr Alban yn 2017. Ond roedd angen moderneiddio’r adeilad rhestredig categori C 100 oed ar fyrder i ddarparu ar gyfer cynulleidfa gynyddol RCCG a’r llu o weithgareddau cymunedol mae'n eu cynnal – gan gynnwys banc bwyd, cicfocsio a grŵp plant bach. 

Mae Karen Hind, Swyddog Cefnogi Ymddiriedolaeth Eglwysi Cenedlaethol yr Alban, a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, wedi gallu helpu RCCG gyda cheisiadau grant a chyngor ar sut i ofalu am eu hadeilad. Mae’r eglwys bellach wedi bod yn llwyddiannus gyda sawl cais am arian a fydd yn helpu i foderneiddio eu hadeilad a darparu ar gyfer eu prosiectau cymunedol sy’n tyfu. 

“Roedd llawer o bobl yn meddwl bod yr eglwys hon wedi cael ei chau oherwydd bod drysau’r eglwys wedi’u cau ers dwy flynedd,” meddai Rufai Adesola, gweinidog Eglwys Brenin y Gogoniant RCCG. 

“Pan ddaethon ni i mewn, fe welson ni’r bobl leol – pobl oedd yn mynychu’r eglwys hon o’r blaen! Roedd pobl yn gyffrous bod yr eglwys ar agor eto. 

“Rydym yn gweld bod llawer o bobl yn y gymuned sydd wedi'u hynysu, yn seiliedig ar eu hamgylchiadau. Felly, y darlun ehangach yw gweld pobl yn dod at ei gilydd. 

“Heb gyllid, dwi’n dod i ddeall y rheswm pam mae eglwysi wedi cau oherwydd does dim cymorth arall gan rywun fel chi a does neb i’w hannog nhw.” 

  

 Creu rhagolygon ffres a chadarnhaol ar gyfer y dyfodol yng Nghymru 

CarmarthenshireBURRYPORTJerusalemIndependentChapel(JohnThomasPERMISSIONBYEMAIL)5
JohnThomas

 

Mae gan Eglwys Annibynnol Jerwsalem yn Sir Gaerfyrddin holltau yn waliau'r festri. Mae dŵr yn mynd i mewn drwy'r bylchau hyn ac yn rhewi yn y gaeaf – sy’n gwneud yr ardaloedd cyfagos yn ansefydlog. Gallai'r bwâu hardd ddisgyn oherwydd eu yn hynod o laith ar hyn o bryd. Dyfarnwyd grant Cherish o £9,000 i Eglwys Jerusalem i helpu gydag atgyweiriadau brys i’r adeilad pwysig hwn. Mae Gareth Simpson, ein Swyddog Cymorth Cymru, wedi bod yn cefnogi Eglwys Jerwsalem gyda’u cais am grantiau ac mae ar gael am gymorth parhaus. 

“Mae Eglwys Jerwsalem yn awyddus i barhau i agor ei drysau i’r gymuned leol, wrth gadw ei diwylliant a’i chredoau ar yr un pryd,” meddai John Thomas, o Eglwys Annibynnol Jerwsalem. 

“Jerwsalem yw’r un Capel Cymraeg sydd ar ôl ym Mhorth Tywyn a Phen-bre, ac mae’n bwysig hybu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gymuned. Er mwyn cynnal cysylltiadau agos ag ysgolion a grwpiau lleol yn yr ardal, mae’n allweddol sicrhau y cynigir lleoliad croesawgar, diogel a deniadol at unrhyw bwrpas. 

“Roeddwn i wrth fy modd pan ges i’r newyddion bod y cais am grant i’r Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol wedi bod yn llwyddiannus. Mae’r grant yn ein galluogi i fwrw ymlaen â gwaith brys yn y capel a’r festri, sy’n ein galluogi ni i barhau i gynnig y ddau fel prif ddewisiadau i gynnal digwyddiadau a chynulliadau.”   

“Mae’r newyddion wedi codi morâl a hyder yn y gynulleidfa, tra’n lleddfu’r pwysau ar gyllid. Roedd yn eiliad emosiynol iawn pan hysbysais i bawb am y newyddion anhygoel gan yr Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol ac mae wedi creu rhagolygon ffres a chadarnhaol ar gyfer y dyfodol.” 

  

Helpu eglwysi, capeli a thai cyrddau i oroesi yng Ngogledd-orllewin Lloegr 

Three people standing inside a church

 

Dyfarnwyd grant Cherish o £9,000 i Lee House, Eglwys Sant Wiliam Efrog yn Thornley, Manceinion Fwyaf ar gyfer atgyweiriadau brys i’r to a’r simnai, oherwydd bod dŵr yn gollwng ac yn achosi difrod ym mhrif fynedfa’r capel a’r tŷ Catholig Rhestredig Gradd II. Mae Matthew Maries, ein Swyddog Cymorth ar gyfer Gogledd-orllewin Lloegr, wedi gallu cynnig cymorth pwrpasol i Lee House, gan gynnwys cyngor twristiaeth. 

Mae'r eglwys wledig yn werth y byd i bobl leol, ond gan fod yr eglwys yn ffinio ag Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Fforest Bowland, mae'r eglwys am helpu'r gymuned ac ymwelwyr i ddathlu'r natur, y diwylliant a'r dirwedd leol. Bydd adeilad dwrglos yn eu helpu i gynnig gwell croeso i ymwelwyr. 

“Mae’n anodd iawn i gymunedau bach lleol godi arian a mynd i’r afael â phroblemau sy’n ymwneud ag eglwysi a chapeli o werth hanesyddol,” meddai Dino Kotlar, Pensaer gyda Phenseiri Francis Roberts, sydd wedi bod yn gweithio gyda’r gwaith atgyweirio ar Lee House, Eglwys Sant Wiliam Efrog. 

“Mae cymorth yr Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol yn bwysig iawn i alluogi’r gymuned... i oroesi a dysgu o dechnegau’r gorffennol. Dysgu sut i warchod, ac nid yn unig adeiledd yr adeilad, ond hefyd ei werth a'i gymeriad. Ac mae'n anodd iawn codi arian yn gyffredinol. A gyda chymorth yr Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol, gallwn ni ganiatáu i’r adeilad hwn a’r gymuned oroesi.” 

Os oes angen cymorth arnoch ar gyfer eich eglwys, eich capel neu’ch tŷ cwrdd chi

Os yw eich eglwys, eich capel neu’ch tŷ cwrdd chi wedi’i leoli yng Nghymru, cysylltwch â ni; byddai ein Swyddog Cymorth yn falch iawn o helpu eich man addoli i aros ar agor ac mewn cyflwr da.

Gareth Simpson, of the National Churches Trust, standing in front of a stone wall
Gareth Simpson

Cymru

Cymorth ar gyfer mannau addoli yng Nghymru.