Mae tirwedd gysegredig Cymru yn gyfrinach sy’n hysbys i ychydig yn unig.
Mae gan y celfyddwaith byw hwn, wedi’i gydblethu â hanes, diwylliant a mytholeg, y grym i ysbrydoli’r meddwl a lleddfu’r enaid.
Mae’n heglwysi a’n capeli hynafol rhyfeddol wedi eistedd yn dawel yn y cefndir am ganrifoedd; eu hanesion wedi eu cuddio’n ddwfn oddi fewn a’u nodweddion a’u haddurniadau yn hysbys i ychydig yn unig, eu hoed aruthrol a’u grym i gyffroi’r meddwl wedi eu claddu’n ddwfn.
Darganfyddwch gysegrfannau syfrdanol; dehonglwch eu celf a’u pensaernïaeth, datguddiwch eu hanesion cudd ac ewch ar deithiau darganfod sy’n codi’r ysbryd wrth dramwyo llwybrau newydd Ffordd Cymru.
Dewch i ddarganfod ac archwilio’r eglwysi gyda ni, i fwynhau’r profiadau arbennig a’r teithiau ystyrlon sy’n cyffroi’r meddwl a chynhyrfu’r enaid, yng nghilfachau angof y wlad hynafol hon.
Ymunwch â ni wrth i ni archwilio Cymru sanctaidd.
Mae gan bob eglwys ei hanes ei hun.