St Peris
Nant Peris, Gwynedd
Sefydlwyd yr eglwys gan St Peris yn y chweched ganrif, yng nghesail copaon ‘Yr Wyddfa a’i chriw’.
Mae eglwys St Tysilio wedi sefyll ar yr ynys ers y 1400au, eto’i gyd, nid oes unrhyw syniad pwy a’i hadeiladodd - na chwaith paham.
Porthaethwy, Anglesey
Roedd Tysilio yn un o feibion Brochfael Ysgrythrog, Brenin Powys. Dihangodd o lys ei dad i fyw fel mynach, ac ymhen hir a hwyr, cyrhaeddodd Ynys Môn gan sefydlu cell meudwy ar ynys yn yr Afon Menai oddeutu 630AD.
Ar ôl saith mlynedd, symudodd i fod yn Abad Meifod ym Mhowys, lle y dechreuodd dderbyn ei hyfforddiant crefyddol. Mae nifer o’r farn ei fod yr un person â Sant Suliac, a sefydlodd ganolfan grefyddol yn Llydaw.
Yn yr un modd â holl safleoedd crefyddol cynnar yng Nghymru, mae’r adeiladau gwreiddiol wedi hen ddiflannu. Mae’r adeilad sydd yno erbyn hyn yn dyddio o flynyddoedd cynnar y bymthegfed ganrif, er bod gwaith adfer sylweddol wedi cael ei gyflawni arno yn y 1890au. Gosodwyd y ffenestr ddwyreiniol yn ystod y cyfnod hwn, yn atgynhyrchiad o’r un gwreiddiol o’r bymthegfed ganrif. Llwyddwyd i gadw cyplau pren gwreiddiol y to, a daw’r bedyddfaen wythonglog o’r bedwaredd ganrif ar ddeg. Un nodwedd anghyffredin ond deniadol yw’r prif ddrws. Mae bwlch y drws yn y wal yn siâp petryal, gyda’r drws ei hun yn siâp cyfatebol – ond serch hyn, mae ffrâm dderw enfawr gyda phen bwa crwn wedi ei gosod yn y wal, o amgylch y bwlch ei hun.
Fel mewn sawl mynwent, mae cryn ddiddordeb hanesyddol yng ngherrig beddi’r ynys. Ceir trawstoriad eang o feddau teuluoedd lleol ond ceir yn ogystal feddau rhai o weithwyr y pontydd a fu farw wrth weithio arnynt, ynghyd â beddau rhai gweithwyr a ymgartrefodd yn lleol wedi i’r gwaith ar y pontydd ddod i ben. Mae’r bardd enwog, Cynan, wedi ei gladdu yno yn ogystal â rhai o deulu’r Davies, sef teulu busnes llwyddiannus yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Ar gopa’r ynys, mae cofeb i’r gwŷr lleol a fu farw yn ystod y rhyfeloedd byd. Dyma’r lle gorau i edrych ar Afon Menai a’r ddwy bont sy’n ei chroesi.
Nant Peris, Gwynedd
Sefydlwyd yr eglwys gan St Peris yn y chweched ganrif, yng nghesail copaon ‘Yr Wyddfa a’i chriw’.
Llanfaglan, Gwynedd
Mae eglwys Sant Baglan (neu Hen Eglwys Llanfaglan) yn sefyll mewn safle godidog yn edrych dros Fae Caernarfon gyda chwedlau’r Mabinogi’n ddiasbedain drwyddo draw.
Llanbeulan, Anglesey
Mae Sant Peulan yn tarddu o’r Oesoedd Canol, a saif ar ei phen ei hun ar derfyn ei sarn werdd uchel. I’w chyrraedd, mae’n rhaid troi oddi ar yr heol sydd ag arwydd am Dothan.