![CityofBristolREDCLIFFEStMary(IoanSaid&NCT)17.jpg](/sites/default/files/styles/hero_image_large/public/2024-01/CityofBristolREDCLIFFEStMary%28IoanSaid%26NCT%2917.jpg?h=41f55a5b&itok=RZJMlDFz)
Mae Pob Eglwys o Bwys
Mae gan y DU rai o’r eglwysi, capeli ac addoldai mwyaf hanesyddol a hardd sydd i’w cael yn unrhyw le yn y byd. Ond mae llawer mewn perygl o gau am byth os na chymerir camau brys.
- Yn Lloegr, mae 900 o addoldai ar Gofrestr Treftadaeth Mewn Perygl Historic England ar hyn o bryd – gyda 53 yn fwy wedi’u hychwanegu yn 2023.
- Yng Nghymru, mae 25 y cant o eglwysi a chapeli hanesyddol wedi cau yn y degawd diwethaf.
- Mae Eglwys yr Alban yn bwriadu cau cymaint â 30-40 y cant o'i heglwysi.
Yn yr Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol, rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi adeiladau eglwysig mewn angen. Gallwch chi ein helpu ni i fod yma i bob eglwys – a’r bobl a’r cymunedau sy’n dibynnu arnyn nhw.
Gwyliwch y fideo i ddysgu mwy
Mae Pob Eglwys o Bwys – glasbrint o sut y gellir achub eglwysi ar gyfer y dyfodol
Gyda channoedd o eglwysi yn wynebu cael eu cau, mae angen cynllun cenedlaethol ar frys i helpu i sicrhau eu dyfodol. Rydym yn galw ar Lywodraeth y DU, sefydliadau treftadaeth ac enwadau Cristnogol i gydweithio i fynd i’r afael â her dreftadaeth unigol fwyaf y DU.
Ein cynllun yw man cychwyn sgwrs genedlaethol ar ddyfodol adeiladau eglwysig. A byddem wrth ein bodd pe baech chi yn rhan ohono.
Cymerwch ran
Lawrlwythwch Mae Pob Eglwys o Bwys a’i ddarllen
Cymerwch olwg ar y maniffesto cyfan, sy’n cynnwys dyfyniadau gan eglwysi, yr ystadegau diweddaraf ar adeiladau eglwysig a chefnogaeth y cyhoedd a sut gallwch chi helpu.
Dysgwch fwy am y chwe phwynt
Crynodeb byr o’r chwe phwynt yn y maniffesto, pam maen nhw’n bwysig a sut y gallwch chi ddangos eich cefnogaeth.
Beth y gallwch chi ei wneud i helpu
![The Houses of Parliament, as seen from across the River Thames](/sites/default/files/styles/media_component_image_small/public/2024-01/HousesofParliament%28tmCC-BY%29.jpg?h=51f43a21&itok=aEd7mjzb)
Dywedwch wrth eich AS i ofyn am ddadl yn Neuadd San Steffan
Mae eich AS yno i’ch cynrychioli chi yn y senedd, felly mae’n bwysig ei fod/ei bod yn gwybod bod eglwysi a’u dyfodol yn bwysig i chi. Gofynnwch i’ch AS ofyn am ddadl yn Neuadd San Steffan ar y mater o achub adeiladau eglwysig y DU. Bydd y ddadl hon yn helpu i sicrhau bod y pwnc pwysig hwn yn aros ar radar Llywodraeth y DU ac yn dod â mwy o gyhoeddusrwydd a sylw iddo.
Mae gwahanol ffyrdd y gallwch ddweud wrth eich AS bod dyfodol eglwysi’n bwysig ichi. Gallwch chi:
• Anfon e-bost neu ysgrifennu ato/ati
• Ei g/wahodd i’ch eglwys
• Ymweld ag ef/hi yn ystod oriau agor ei swyddfa etholaethol
![A graphic featuring a stained glass window and the text Every Church Counts](/sites/default/files/styles/media_component_image_small/public/2024-01/Untitled%20%285%29.png?h=19b7ec1d&itok=HXpkkU4o)
Rhannwch Mae Pob Eglwys o Bwys ar y cyfryngau cymdeithasol a gyda’ch cysylltiadau
Y ffordd orau o ddechrau sgwrs genedlaethol yw annog pawb i gymryd rhan. Allwch chi helpu? Byddem wrth ein bodd pe baech yn dangos eich cefnogaeth i Mae Pob Eglwys o Bwys ar y cyfryngau cymdeithasol a gyda’ch teulu, eich ffrindiau, eich cydweithwyr a’ch eglwysi.
Rhannwch y dudalen we hon a pham rydych yn cefnogi adeiladau eglwysig gan ddefnyddio’r hashnod #MaePobEglwysOBwys