Image of workmen on scaffolding around a church David Osborne Broad

Y cynllun chwe phwynt i achub adeiladau eglwysig (a pham mae pob gofyniad yn bwysig)

Mae angen cynllun cenedlaethol ar frys i helpu i sicrhau dyfodol ein hadeiladau eglwysig. Mae ein cynllun chwe phwynt yn lasbrint ar gyfer sut y gall Llywodraeth y DU, sefydliadau treftadaeth ac enwadau Cristnogol gydweithio i fynd i’r afael â her dreftadaeth unigol fwyaf y DU.    

Dyma grynodeb o’n chwe phwynt. Os hoffech ddarllen rhagor, cliciwch yma i lawrlwytho Mae Pob Eglwys o Bwys, sef ein maniffesto.   

 

Pwynt un: cymorth i wirfoddolwyr arwrol 

Gofalir am bron pob eglwys leol gan wirfoddolwyr sy’n gyfrifol am ddyfodol casgliad mwyaf y Deyrnas Unedig o adeiladau hanesyddol a’u cynnwys.  Heb y gwirfoddolwyr parod hyn, byddai’r adeilad a’i gyllid yn cael eu hesgeuluso, ac yn dadfeilio.

Yn aml, mae’r gwirfoddolwyr hyn yn hŷn, a gallant fod â diffyg hyfforddiant proffesiynol mewn cynnal a chadw adeiladau neu godi arian. A gall clerigwyr gael eu hunain yn gyfrifol am nifer o adeiladau eglwysig hanesyddol. Mae lefel y gefnogaeth a gânt gan eu henwad cenedlaethol neu ar lefel ranbarthol neu esgobaethol yn amrywio’n aruthrol. 

Yr hyn sydd angen ei wneud: 

Mae angen creu rhwydwaith o swyddogion cymorth proffesiynol ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan i helpu’r gwirfoddolwyr, gan gynnwys clerigwyr, sy’n gofalu am adeiladau eglwysig. Gallai’r cymorth hwn hefyd gynnwys adeiladau sy’n perthyn i grefyddau eraill. Gallai gwasanaethau a ddarperir yn fwy canolog y gall eglwysi ddewis manteisio arnynt fod o fudd hefyd.

 

Pwynt dau: ein gwasanaeth cymorth cenedlaethol   

Yn aml, eglwysi, capeli ac addoldai  yw’r rhai cyntaf i ymateb i angen lleol ledled y Deyrnas Unedig. Diolch i waith anhygoel miloedd lawer o wirfoddolwyr, drwy’r dydd bob dydd, nhw yw ‘gwasanaeth cymorth cenedlaethol’ y DU. Maent hefyd yn chwarae rhan hanfodol ar adegau o argyfwng lleol a chenedlaethol megis stormydd a llifogydd, neu gefnogi ffoaduriaid.

Trwy agor adeiladau crefyddol at ddibenion eraill ac annog llawer mwy o bobl i’w defnyddio, mae mwy o siawns o allu eu harbed a’u cadw ar agor am byth.

Yr hyn sydd angen ei wneud: 

Dylai Llywodraeth y DU ofyn i bob awdurdod lleol a chorff cyhoeddus, megis y GIG, ymgysylltu â grwpiau ffydd a gwneud mwy o ddefnydd o eglwysi a neuaddau eglwys i gynnal gwasanaethau cyhoeddus a chymunedol, gan helpu i uwchraddio cyfleusterau lle bo angen. 

 

Pwynt tri: cyllid i achub treftadaeth amhrisiadwy

Cost yr ôl-groniad o ran atgyweirio adeiladau eglwysig sy’n perthyn i Eglwys Loegr yn unig yw o leiaf £1 biliwn, ac amcangyfrifir mai’r gost flynyddol gyfartalog ar gyfer gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio eglwysi plwyf yw £150 miliwn. Mae problemau ariannu yn aml ar eu mwyaf yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.

Heb gymorth ariannol rheolaidd gan Lywodraeth y DU, a mwy o gyllid gan sefydliadau treftadaeth, enwadau ac ymddiriedolaethau dyngarol, bydd mwy a mwy o eglwysi’n cau os na allant dalu am waith atgyweirio. Bydd hyn yn golygu dyfodol ansicr i adeiladau gwerthfawr, sy’n symbolau o obaith a pharhad, a cholli’r gefnogaeth gymunedol y maent yn ei darparu. 

Yr hyn sydd angen ei wneud: 

Er mwyn helpu i gadw eglwysi’r DU ar agor ac yn gwasanaethu pobl leol, ac i achub eu treftadaeth ar gyfer y dyfodol, mae angen o leiaf £50 miliwn o gyllid cyhoeddus ychwanegol wedi’i neilltuo bob blwyddyn ar gyfer gwaith atgyweirio mawr, gyda chyllid cymesur yn cael ei ddarparu ar gyfer y gweinyddiaethau datganoledig. Byddai cynllun arian cyfatebol cenedlaethol yn helpu i gymell rhoddion elusennol a dyngarwch preifat.

A photograph of people walking up to a Welsh chapel
Ioan Said

Pwynt pedwar: ar y map i ymwelwyr

Mae eglwysi lleol y Deyrnas Unedig yn rhan o’n treftadaeth bwysicaf. Maent yn cynnwys y casgliad mwyaf o gelf, cerflunwaith a gwydr lliw yn y DU. Mae miloedd o eglwysi rhyfeddol mewn lleoliadau bendigedig. Mae amrywiaeth, harddwch a hanes eglwysi’r Deyrnas Unedig yn galluogi ymwelwyr o’r DU a thramor i ddysgu mwy am ein hanes a’n diwylliant.

Gall gwneud mwy o’u hanes a’u treftadaeth drawsnewid dyfodol eglwysi lleol y Deyrnas Unedig a hefyd roi hwb i swyddi lleol. Twristiaeth yw un o’r sectorau pwysicaf yn economi’r Deyrnas Unedig. Yn 2021, gwerth ymweliadau dydd â safleoedd treftadaeth yn Lloegr oedd £5.5 biliwn.

Yr hyn sydd angen ei wneud: 

Dylai’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, gan weithio gyda’r prif sefydliadau twristiaeth cenedlaethol, gomisiynu astudiaeth genedlaethol ar sut i wneud mwy o dreftadaeth heb ei hail eglwysi’r Deyrnas Unedig.

 

Pwynt pump: eglwysi’n agored i bawb 

Er bod gan lawer o eglwysi bolisi drws agored, mae llawer o rai eraill o hyd sydd ar agor am oriau cyfyngedig iawn yn unig neu ar agor ar gyfer cynnal gwasanaethau crefyddol yn unig. Mae’r ffigurau diweddaraf o’r ap ‘deiliaid allweddau’ ar gyfer ymweld ag eglwysi yn dangos bod traean o’r 15,580 o eglwysi sydd ar ei system yn parhau i fod dan glo.

Beth bynnag yw ei statws treftadaeth, mae eglwys dan glo yn creu argraff nad oes ganddi ddiddordeb yn y byd ehangach, gan wneud deialog yn anodd gyda phobl leol ac ymwelwyr a allai fod eisiau ei chefnogi neu ymgysylltu â hi mewn sawl ffordd.

Yr hyn sydd angen ei wneud: 

Mae angen i adeiladau eglwysig fod ar agor yn rheolaidd y tu allan i amseroedd addoli i gyflawni eu potensial ym mywyd cymunedau, o fewn cyfyngiadau’r hyn sy’n iawn i’r ardal leol. 

 

Pwynt chwech: sicrhau newid

Mae hyrwyddo’r llu o hanesion o lw yddiant am adeiladau eglwysig yn golygu y gellir eu hystyried yn asedau ac nid yn feichiau. Mae angen sicrhau bod data a gwybodaeth am adeiladau eglwysig ar gael yn ehangach i lunwyr polisi fel y gallwn siarad yn fwy manwl gywir am adeiladau eglwysig a sicrhau eu bod yn gallu chwarae rhan allweddol yn nyfodol pentrefi, trefi a dinasoedd.

Os yw Llywodraeth y DU yn cymryd rhan, bydd yn agor trafodaeth genedlaethol, a allai dynnu sylw at gyflwr gwarthus adeiledd hanesyddol mawr ein heglwysi.

Yr hyn sydd angen ei wneud:

Mae angen i Lywodraeth y DU, sefydliadau treftadaeth ac enwadau gymryd camau brys. Mae angen cydgysylltu ac arwain ar hyn. Bydd newid hirdymor hefyd yn gofyn am fwy o eiriolaeth a thystiolaeth: mae gan bawb sy’n defnyddio, yn caru neu’n cefnogi adeiladau eglwysig ran i’w chwarae.  

Yr hyn y gallwch chi ei wneud i helpu

The Houses of Parliament, as seen from across the River Thames
Tm CC-BY

Dywedwch wrth eich AS i ofyn am ddadl yn Neuadd San Steffan

Mae eich AS yno i’ch cynrychioli chi yn y senedd, felly mae’n bwysig ei fod/ei bod yn gwybod bod eglwysi a’u dyfodol yn bwysig i chi. Gofynnwch i’ch AS ofyn am ddadl yn Neuadd San Steffan ar y mater o achub adeiladau eglwysig y DU. Bydd y ddadl hon yn helpu i sicrhau bod y pwnc pwysig hwn yn aros ar radar Llywodraeth y DU ac yn dod â mwy o gyhoeddusrwydd a sylw iddo.

Mae gwahanol ffyrdd y gallwch ddweud wrth eich AS bod dyfodol eglwysi’n bwysig ichi. Gallwch chi:

• Anfon e-bost neu ysgrifennu ato/ati
• Ei g/wahodd i’ch eglwys
• Ymweld ag ef/hi yn ystod oriau agor ei swyddfa etholaethol

Dysgwch pwy yw eich AS lleol a sut i gysylltu ag ef/hi
A graphic featuring a stained glass window and the text Every Church Counts

Rhannwch Mae Pob Eglwys o Bwys ar y cyfryngau cymdeithasol a gyda’ch cysylltiadau

Y ffordd orau o ddechrau sgwrs genedlaethol yw annog pawb i gymryd rhan. Allwch chi helpu? Byddem wrth ein bodd pe baech yn dangos eich cefnogaeth i Mae Pob Eglwys o Bwys ar y cyfryngau cymdeithasol a gyda’ch teulu, eich ffrindiau, eich cydweithwyr a’ch eglwysi.

Rhannwch y dudalen we hon a pham rydych yn cefnogi adeiladau eglwysig gan ddefnyddio’r hashnod #MaePobEglwysOBwys

Gallwch hefyd lawrlwytho graffigau i’w rhannu yma