Eglwys Santes Fair
Herbrandston, Pembrokeshire
Mae St Mair yn eglwys ganoloesol sydd â thŵr byr o’r bymthegfed ganrif yn y pen gorllewinol. Mae hi’n sefyll ym ‘mhentref diolchgar’ dwbl Herbrandston.
Dyma le i fod yn un â’r hynafiaid a’r ysbrydion; man pererindota canoloesol mewn lleoliad dramatig yng nghesail y clogwyn uwchlaw Môr yr Iwerydd - ac mae’n rhaid dilyn rhes o risiau cerrig hynafol i’w gyrraedd.
Bosherston, Pembrokeshire
Bu eglwys St Gofan yn enwog ar un adeg am ei gallu i iacháu, a chan fod nifer o hen chwedlau yn gysylltiedig â hi, mae’n parhau i ddenu cannoedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Yn llochesu’n wyrthiol yn y creigiau calchfaen rhwng y môr a brig y clogwyn ar bentir mwyaf deheuol Sir Benfro, mae’r cysegrfan wyth cant oed hwn yn lle sy’n tanio’r dychymyg ac yn cyffwrdd â’r oesoedd a fu.
Cysegrwyd yr eglwys i St Gofan, mynach Gwyddelig o Lwch Garmon (Wexford) ac mae’n un o amryw o eglwysi yng Nghymru a gafodd eu sefydlu ar lecyn hudol gan sant o’r bumed neu’r chweched ganrif. Yn ôl y chwedl, roedd St Gofan yn cael ei erlid gan giang o forladron pan agorodd hollt yn y clogwyn uwch ei ben, a llwyddodd i guddio yno’n ddiogel, gyda’r clogwyn yn cau amdano. Wedi i’r morladron adael, agorodd yr hollt unwaith eto – a daeth St Gofan allan a sefydlu capel yn y fan a’r lle, i ddathlu’r gobaith newydd a buddugoliaeth y da dros y drwg. Bu farw yn 586, ac mae wedi ei gysylltu â Gwalchmai fab Gwyar, yr arwr yn y chwedl ‘Syr Gawain a’r Marchog Gwyrdd’ o chwedlau’r Brenin Arthur, ac hefyd â chymeriadau rhai o chwedlau’r Mabinogi.
Mae’r man pererindota hynafol hwn wedi ei adeiladu o galchfaen lleol. Mae ei do ar ffurf bwa. Canolbwynt y tu mewn syml yw allor garreg ddi-addurn sy’n llawer hŷn na’r waliau cerrig. Mae yno feinciau isel a phisgina (cawg o ddŵr) yn y wal uwchben lle roedd ffynnon yn ffrydio, a lle y byddai’r offeiriad yn golchi ei ddwylo. Ewch trwy’r drws ac i mewn i’r ogof fach sydd yn ymyl yr allor – dyma gell meudwy gwreiddiol St Gofan – ac a welwch chi’r rhychau yn y garreg? Dywedir eu bod yn ôl asennau St Gofan. Y tu allan i’r capel, sylwch ar y pridd clai coch sydd o’i amgylch – dywedir bod gan y pridd hwn y gallu i iacháu ac felly hefyd y ffynnon sanctaidd, sydd wedi hen sychu erbyn hyn - ond lle mae dymuniadau cudd yn cael eu gwneud o hyd. Arhoswch am eiliad i gofio am St Gofan a’r holl bererinion sydd wedi dod yma dros y canrifoedd, yn chwilio am nerth ac am gysur.
Herbrandston, Pembrokeshire
Mae St Mair yn eglwys ganoloesol sydd â thŵr byr o’r bymthegfed ganrif yn y pen gorllewinol. Mae hi’n sefyll ym ‘mhentref diolchgar’ dwbl Herbrandston.
Llandeloi, Pembrokeshire
Mae St Eloi yn enghraifft brin o eglwys a adeiladwyd dan ddylanwad y Mudiad Celf a Chrefft gan y pensaer John Coates Carter.
Maenclochog, Pembrokeshire
Saif St Mair yng nghanol llain pentref Maenclochog; mae’n anghyffredin i gael llain pentref mor sylweddol yn y rhan hon o’r wlad. Oddi fewn iddi, ceir dwy garreg ag arysgrifen arnynt o’r bumed a’r chweched ganrif.