Ychwanegwyd y gangell, capel y de a festri’r gogledd gan Kempson & Fowler yn 1892-3, ac ychwanegwyd dwy gilfach y pen gorllewinol gan G E Halliday yn 1897.
Mae waliau allanol yr eglwys wedi’u gorchuddio â cherrig rwbel Pontypridd gyda meini nadd carreg Caerfaddon. Mae llechi Cymreig ar y to. Mae’r adeilad gorffenedig yn cynnwys corff a changell pum cilfach ynghyd â dwy ystlys ochr, pob un â tho talcennog ar wahân. Mae yna Gapel Mair ar ben dwyreiniol yr ystlys ddeheuol, a phorth talcennog yn ei chanol.
Mae ystlysau llydan yr eglwys wedi eu hadeiladu o friciau melyn, gyda rhesi a meini bwa o friciau coch a du. Mae’r arcedau pren yn cael eu cynnal gan golofnau main ar ffurf pedairdalen gyda’u pennau uchaf ac isaf wedi’u mowldio. Mae yno wrthgefn allor o garreg Portland ac alabastr sydd wedi’i gerfio’n gain, yn ogystal â nifer o ffenestri lliw.