PowysPATRICIOStIssui(©crowncopyright2020)1 ©CrownCopyright2020

Sant Isw

Cyrhaeddir yr eglwys hon trwy deithio naill ai ar hyd lonydd troellog sy’n gyforiog o flodau, neu ar hyd llwybr troed. Wrth gyrraedd, fe welwch yr eglwys ganoloesol hon yn sefyll ar lethrau’r Grwyne Fawr, yn edrych heibio cwm bychan at lethrau Mynydd Pen-y-Fâl yr ochr draw.

Petrisw, Powys

Oriau agor

Ar agor yn ystod oriau'r dydd.

Cyfeiriad

Petrisw
Powys
NP77LP

Cyrhaeddir yr eglwys hon trwy deithio naill ai ar hyd lonydd troellog sy’n gyforiog o flodau, neu ar hyd llwybr troed. Wrth gyrraedd, fe welwch yr eglwys ganoloesol hon yn sefyll ar lethrau’r Grwyne Fawr, yn edrych heibio cwm bychan at lethrau Mynydd Pen-y-Fâl yr ochr draw.

Yn ystod y chweched ganrif, sefydlwyd cell yma gan feudwy Cristnogol cynnar o’r enw Issui neu Isw, ar lethrau’r bryn wrth ochr nant. Llifodd y nant i ffynnon gerllaw, ac o’r ffynnon honno, tynnodd y meudwy ei ddŵr glân. Gallwch weld y ffynnon o hyd wrth fynd am dro bach i lawr y bryn o’r fynwent – mae’n hawdd dod o hyd iddi gan fod stribedi o frethyn lliwgar wedi’u clymu wrth ganghennau’r coed gerllaw. Gelwir y ffynnon yn ‘Ffynnon Isw’.

Daeth cell y meudwy a’r ffynnon yn fan pererindota ar ôl i deithiwr a ddaeth i ofyn am loches ond a wrthododd droi at Gristnogaeth, ddwyn oddi wrth Isw  - ac yna ei lofruddio. Mae’n debyg i Isw gael ei gladdu y tu mewn i’w gell. Daeth pererinion i ymweld â bedd y sant, a’r ffynnon, gan fod ganddi, yn ôl y sôn, y gallu i iachau. Yng nghanol yr unfed ganrif ar ddeg, gadawyd sach o aur yno gan bererin, yn gyfraniad tuag at adeiladu eglwys newydd. Y canlyniad oedd adeilad carreg syml, yn fwy na thebyg yr un maint â chorff yr eglwys bresennol. Ailadeiladwyd yr eglwys garreg gynnar hon yn y bedwaredd ganrif ar ddeg a’r bymthegfed ganrif, ac eto yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif.

Er yr holl waith ailadeiladu, mae casgliad cyfoethog o nodweddion hanesyddol wedi goroesi. Ymhlith y rhain, mae croglen bren odidog o’r bymthegfed ganrif hwyr, wedi ei chreu o dderw cors Gwyddelig, ac wedi ei cherfio’n gain. Mae oriel y groglen wedi goroesi hefyd, ac mae’r cerfiadau addurniadol a welir arni yn rhai o’r enghreifftiau gorau o gelfyddyd ganoloesol a geir yng Nghymru. Dywedir iddi gael ei chreu gan grefftwyr o Fflandrys - ond mae yr un mor bosib iddi gael ei chreu gan saer coed lleol medrus iawn. Chwiliwch am y ddraig sy’n anadlu tân, y Forwyn Fair, a’r Apostol Ioan. Mae’r bedyddfaen yn dyddio o 1055 – yr un hynaf o bosib yng Nghymru. Mae arysgrif arni sy’n dweud ‘Menhir fe’m gwnaed yn oes Genillin’. Mae’n bosib bod yr enw ‘Genillin’ yn cyfeirio at etifedd Rhys Coch, Tywysog Powys yn yr unfed ganrif ar ddeg – neu fe all hefyd fod yn gyfeiriad at Gynddylan, llywodraethwr Powys yn y seithfed ganrif.

Ar y wal orllewinol, mae yna lun sy’n portreadu Dydd y Farn, fel y’i ceir yn y Beibl. Hyd yn oed yn fwy nodedig, mae ffigwr trawiadol o ‘Amser’ ar ffurf sgerbwd, yn dal y cryman a’r awrwydr traddodiadol, yn ogystal â rhaw. Byddai ystyr y llun wedi bod yn glir, hyd yn oed i boblogaeth lle roedd y mwyafrif yn anllythrennog; mae’ch dyddiau wedi eu rhifo – felly gwnewch y gorau ohonynt. Yn ôl y chwedl, mae’r llun wedi cael ei wyngalchu ar sawl achlysur – ond yn hollol anesboniadwy, mae’r sgerbwd wedi ail-ymddangos bob tro. Mae corff yr eglwys yn fwy na thebyg yn Normanaidd, ond mae’r gangell yn dyddio o’r unfed ganrif ar bymtheg. Ar ochr orllewinol corff yr eglwys mae capel sy’n dyddio o’r drydedd ganrif ar ddeg a elwir yn ‘Eglwys y Bedd’. Mae’r capel wedi’i godi uwchben bedd St Isw, gyda’r bedd ei hun o dan yr allor yno. Mae chwech o groesau cysegru bach wedi eu hendorri ar y garreg fedd, un yn fwy na’r pump arferol. Mae’r croesau’n dynodi bod y lle wedi’i gysegru gan Esgob.

Os dilynwch y llwybr serth i lawr o glwyd y fynwent, fe ddowch at ffynnon garreg fach, ychydig yn ôl o’r ffordd. Yn ôl y traddodiad, dyma’r ffynnon y dywedir i St Isw ei defnyddio, a phriodolir iddi y gallu i iachau. Mae cwpan tun bach yno i’ch galluogi i blygu lawr a thynnu’r dŵr glân.

Contact information

Other nearby churches

Eglwys y Forwyn Fair

Capel y Ffin, Powys

Lleolir eglwys Sant Mair, Capel y Ffin yn nyffryn cudd yr afon Honddu, gyda’r Mynyddoedd Du i’r gorllewin iddi a Chlawdd Offa i’r dwyrain. Mae’n fan lle mae celfyddyd a thirwedd yn ymdoddi i’w gilydd – ac nid yw’n syndod felly iddi ddenu arlunwyr a beirdd am ganrifoedd.

Sant Ellyw

Llaneleu, Powys

Mae’r eglwys anghysbell hon yn sefyll yng nghanol mynwent helaeth, hynafol yn nyfnderoedd y Mynyddoedd Du, ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Cadeirlan Aberhonddu

Aberhonddu, Powys

Mae’r Gadeirlan yn estyn croeso i bawb sy’n dod heibio – boed os ydych yn dwrist sy’n ymweld, yn addolwr sydd yno i offrymu eich gweddïau personol neu i oleuo cannwyll, neu yn rhywun sydd â diddordeb arbennig mewn hanes, pensaernïaeth neu ffenestri lliw.