ClwydGWYTHERINStWinifred(philiphallingCC-BY-SA2.0)1 PhilipHalling

Santes Gwenfrewi

Beddrodau seintiau, safle cysegredig cyn-Gristnogol hynafol - a choed yw 2,000 oed sydd ymhlith y rhai gorau yng ngogledd Cymru.

Gwytherin, Clwyd

Oriau agor

Mwy o wybodaeth am yr eglwys hon i ddod yn fuan.

Cyfeiriad

Gwytherin
Clwyd
LL22 8UU

Mae yna ansicrwydd ynglŷn â pha bryd yn union y sefydlwyd y safle cysegredig hwn yng Ngwytherin, ond mae’r cerrig cynnar, un ohonynt ag arysgrif Romano-Brydeinig, yn awgrymu bod llwythau o gyfnod cynharach wedi byw yno. Mae’r cerrig hyn bellach yn ffurfio aliniad yng nghefn yr eglwys, er mae’n bosib iddynt ar un adeg fod yn sefyll uwchben tomen gladdu, yn dynodi bedd cyndadol, eto o gyfnod llawer cynharach.

Mae’r coed yw hynafol, efallai 2500 – 3000 oed yn nodweddiadol o’r coed a geir mewn man ymgynnull cysegredig o’r fath, ac maen nhw’n rhai o’r enghreifftiau gorau yng Ngogledd Cymru.

Yn ôl y chwedl, daeth Gwenfrewi i Wytherin i fyw ochr yn ochr â’i chyfnither, Eleri, a oedd wedi sefydlu clas Cristnogol cynnar neu golegiwm gyda’i mam, Theonia. Maes o law, daeth Gwenfrewi yn Abades y gymuned gynnar hon, a dywedir mai yn y fan hyn y bu iddi farw, a’i chladdu mewn caeadle a adnabyddir bellach yn Gapel Penbryn.

Dywedir mai i’r lle hwn hefyd y daeth y Prior Robert a saith mynach o Abaty Amwythig yn y 1130au, 500 o flynyddoedd ar ôl ei marwolaeth, i gipio ei hesgyrn ymaith i’r Amwythig, er mwyn denu pererinion i ymweld â’u habaty newydd.

Roedd yna greirfa (bocs esgyrn) yng Ngwytherin o’r enw ‘Arch Gwenfrewi’; tynnwyd ei llun ar safle’r capel gan Edward Lluyd yn 1668. Cafodd yr ‘Arch’, sy’n gyswllt prin â’r gorffennol,  fwy neu lai ei difetha’n llwyr gan offeiriad a werthodd ddarnau ohoni fel creiriau, a dim ond ychydig ddarnau ohoni sydd bellach ar ôl. Mae’r cerrig sydd erbyn hyn y tu mewn i’r eglwys, yn cynrychioli rhai o’r cysylltiadau prin rhwng y safle â chapel cynnar Gwenfrewi. Cofnodwyd ar un adeg bod y garreg fedd sydd bellach yn y wal wrth yr allor, wedi ei gosod dros fedd Gwenfrewi ei hun yn ystod cyfnod cynharach. Rwy'n gobeithio y bydd yr ymdeimlad y cewch oddi fewn i’r eglwys yn atsain o naws ysbrydol yr harddwch y teimlwch oddi allan iddi, naws sy’n treiddio ar hyd ac ar led y safle cysegredig hwn. 

Contact information

Other nearby churches

Capel Seion

Rowen, Gwynedd

Mae’r capel yn adeilad rhestredig gradd II gyda chynllun anarferol ac yn gartref i arddangosfa o hanes lleol a hanes anghydffurfiaeth yng Nghymru.

St Trillo

Llandrillo yn Rhos, Clwyd

Mae’r adeilad syml, to carreg, bach iawn hwn, yn wyth troedfedd o uchder ac un droedfedd ar ddeg o hyd; mae ei waliau o drwch dwy droedfedd ac o dan ei allor, mae ffynnon sanctaidd St Trillo.

St Peris

Nant Peris, Gwynedd

Sefydlwyd yr eglwys gan St Peris yn y chweched ganrif, yng nghesail copaon ‘Yr Wyddfa a’i chriw’.