St Deiniol
Penarlâg, Flintshire
Mae eglwys wedi’i chysegru i Sant Deiniol wedi sefyll ar y safle hwn ers y chweched ganrif. Mae’r gynulleidfa’n ymfalchïo yn y cysylltiad rhwng yr eglwys a theulu y Prif Weinidog Fictoraidd, William Ewart Gladstone.
Adeiladwyd yr eglwys gyntaf ar y safle hwn yn 1841, ond fe’i difrodwyd yn ddifrifol gan dân. Yn ôl yr hanes, ym mis Mai 1891, cynhaliodd y Ficer ‘briodas yn yr adfeilion’.
Yr Orsedd, Clwyd
Cyrhaeddodd y Parchg. Vowler Rossett yn 1863, ac yn fuan iawn, dechreuodd lobïo am eglwys newydd - a datblygodd yr ymgyrch yn llafur oes. Adeiladwyd eglwys garreg gadarn yr olwg yn arddull yr Adfywiad Gothig, gyda tho o lechi gwyrdd. Yn anffodus, bu farw’r Parchg. Vowler ym mis Hydref 1892, bedwar diwrnod cyn y dyddiad a benodwyd i gysegru’r eglwys newydd. Cafodd ei gladdu ar ddiwrnod y gwasanaeth cysegru.
Dyluniwyd yr eglwys gan Douglas a Fordham, Penseiri o Gaer, a chostiodd dros £3,677. Ailddefnyddiwyd y pulpud derw cerfiedig o’r eglwys wreiddiol, ynghyd â’r lampau sydd bellach yng nghorff ac ystlys ogleddol yr eglwys newydd, gan eu bod yn waith haearn o safon uchel.
Mae’r cloc yn y tŵr yn dyddio o 1902 ac mae’r blaenlythrennau ‘ER’ arno, i goffáu coroni’r Brenin Edward VII. Yn y tŵr ei hun, ceir wyth o diwbglychau.
Mae’r ffenestr fawr ddwyreiniol yn cynnwys gwydr gan Charles Eamer Kempe, a gwelir gwydr gan yr un dylunydd mewn ffenestr arall. Mae yn yr eglwys hefyd ffenestr gan Edward Burne- Jones.
Yn 1925, gosodwyd ffenestr i goffáu’r rhyfel yn wal ogleddol corff yr eglwys. Mae’n ddarlun o faes y gad, gyda milwr yn dal reiffl a meddyg yn rhoi cymorth i filwr a glwyfwyd. Mae gan yr eglwys hefyd ddarn bach o groes o faes y gad; mae yn y fynwent y tu allan, sy’n anarferol.
Anogir ymwelwyr i fynd am dro o amgylch y fynwent gan ei bod yn rhan o gynllun ‘Mynwentydd Byw’, lle y neilltuir rhannau ohoni i fod yn ardaloedd cadwraeth ar gyfer hybu bywyd gwyllt. Mae tŷ elor yno hefyd – ac roedd yr hen elorgerbyd a fu’n cludo’r eirch trwy’r pentref yn arfer cael ei chadw yn y tŷ elor yno - bellach mae’n cael ei harddangos yng Nghanolfan Treftadaeth Y Bers, ger Wrecsam.
Penarlâg, Flintshire
Mae eglwys wedi’i chysegru i Sant Deiniol wedi sefyll ar y safle hwn ers y chweched ganrif. Mae’r gynulleidfa’n ymfalchïo yn y cysylltiad rhwng yr eglwys a theulu y Prif Weinidog Fictoraidd, William Ewart Gladstone.
Llantysilio, Denbighshire
Saif eglwys St Tysilio mewn Ardal Gadwraeth, yn edrych dros yr Afon Dyfrdwy, yn ymyl Dyfrbont Pontcysyllte, un o Safleoedd Treftadaeth y Byd. Wrth ymweld â’r lle, cewch eich ysgubo nôl tua phum can mlynedd.
Gwytherin, Clwyd
Beddrodau seintiau, safle cysegredig cyn-Gristnogol hynafol - a choed yw 2,000 oed sydd ymhlith y rhai gorau yng ngogledd Cymru.