Pwy oedd Gwynno? Yn ôl un traddodiad lleol, bu’n un o ddisgyblion Illtud, y sant uchel ei barch a sefydlodd y fynachlog yn Llanilltud Fawr. Mae’r eglwys yn Llanilltud Faerdref, i’r dde o Bontypridd, wedi’i chysegru hefyd i Sant Illtud, ac mae’r hen eglwys yn Ystradyfodwg yn y Rhondda Fawr wedi ei chysegru i un arall o’i ddisgyblion, sef Sant Tyfodwg. Dyma ‘dri sant’ Llantrisant, yr hen dref ar ben bryn i’r gorllewin o Bontypridd. Roedd John Morgans, y gweinidog a sefydlodd eglwys Llanfair ym Mhenrhys, yn hoff o ddychmygu’r hen abad a’i ddilynwyr ifanc yn dod yno at y ffynnon sanctaidd i gyfarfod a’i gilydd, gan ei fod yn lle canolog ar gyfer y tair eglwys.
Mae carreg fedd yn eglwys St Gwynno yn dynodi gorffwysfa olaf y Cymro chwimdroed Guto Nyth Brân. Er mai Griffith Morgan oedd ei enw, roedd yn byw yn fferm Nyth Brân, felly dyna darddiad ei lysenw, ‘Guto Nyth Brân’. Roedd yn rhedwr mor gyflym, dywedir iddo allu rhedeg yn gynt na’r ‘sgwarnog ac yn gallu dal adar tra roedden nhw’n hedfan. Llwyddodd i ennill pob ras a redodd erioed, nes iddo fethu â dod o hyd i bobl i gystadlu yn ei erbyn. Fe’i denwyd i adael ei ymddeoliad a dychwelyd at redeg pan oedd yn 37 oed – oedran mawr ar gyfer rhedwyr – i rasio yn erbyn rhedwr newydd o’r enw Prince. Er iddo fod yn fuddugol yn y ras, yn anffodus fe wnaeth ei gariad a’i hyfforddwraig Sian-O-Siop ei guro ar ei gefn i’w longyfarch – gan beri iddo ddisgyn i’r llawr a marw. Gorffennodd y ras o 12 milltir mewn 53 munud – a’r amser cyflymaf yn y byd ar hyn o bryd am redeg 3 milltir yw oddeutu 12 munud a 12 eiliad – a hynny ar drac gwastad! Mae ei gampau wedi ysbrydoli’r rasys Nos Galan blynyddol o amgylch Aberpennar.