Sant Andreas yr Apostol
Y Beifil, Pembrokeshire
Credir bod hon yn eglwys ganoloesol a gafodd ei hailadeiladu yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, er nad oes unrhyw olion gweladwy o’r cyfnod cynnar hwn wedi goroesi.
Eglwys hyfryd iawn a sefydlwyd yn y chweched ganrif. Datblygodd y pentref – sy’n enwog am ei draeth a’i bysgod a sglodion blasus – o’i hamgylch.
Llangrannog, Ceredigion
Cysegrir yr eglwys i Caranog neu Carantoc, fab Corun ab Caredig ab Cunedda, sant o’r chweched ganrif a sefydlodd nifer o eglwysi yng Nghymru.
Adeiladwyd yr eglwys oddeutu 500AD o blethwaith pren, ac er bod yr eglwys bresennol yn dyddio o 1885, mae’n cynnwys nifer o nodweddion o gyfnod cynharach. Oddi fewn iddi ceir corff a changell, gyda bwa pigfain yn eu cysylltu â’i gilydd.
Mae seddau wedi eu haddurno ar naill ochr y fynedfa i’r gangell. Mae’r un ar y chwith â’r dyddiad 1674 – ac roedd yn eiddo i Pigeonsford, plasty lleol. Mae’r un ar y dde â’r dyddiad 1718, ac roedd hon yn eiddo i Moel Ifor a Chwmowen.
Mae’r eglwys yn agos at ogof a ddefnyddiwyd gan y sant pan oedd yn yr ardal, ac yn y fynwent ceir bedd Cranogwen, gwraig ryfeddol o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a oedd yn forwr, ysgolfeistres a llenor.
Mae’r ‘pentref eglwys’ hwn wedi ei guddio gan dro yn y dyffryn ac ni ellir ei weld o’r môr; oherwydd hyn fe’i amddiffynnwyd rhag ysbeilwyr, Llychlynwyr a’r Gwyddelod. Mae tystiolaeth o anheddiad Celtaidd cynnar yn Lochtyn gerllaw.
Roedd Ffynnon St Mair yn gyrchfan poblogaidd ar gyfer pererinion, a fyddai’n cymryd y dŵr at ddibenion iechyd.
Y Beifil, Pembrokeshire
Credir bod hon yn eglwys ganoloesol a gafodd ei hailadeiladu yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, er nad oes unrhyw olion gweladwy o’r cyfnod cynnar hwn wedi goroesi.
Maenclochog, Pembrokeshire
Saif St Mair yng nghanol llain pentref Maenclochog; mae’n anghyffredin i gael llain pentref mor sylweddol yn y rhan hon o’r wlad. Oddi fewn iddi, ceir dwy garreg ag arysgrifen arnynt o’r bumed a’r chweched ganrif.
Tregaron, Ceredigion
Soar y Mynydd yw’r capel mwyaf anghysbell yng Nghymru.