GwyneddLLANDANWGStTanwg(©helenhotsonPURCHASED)2 ©HelenHotson

St Tanwg

Saif eglwys hynafol St Tanwg yng nghanol y twyni tywod yn Llandanwg. Honnir iddi gael ei sefydlu yn y bumed ganrif gan St Tanwg ei hun, ac mae’n un o’r sefydliadau Cristnogol hynaf ym Mhrydain.

Llandanwg, Gwynedd

Oriau agor

Mae'r eglwys fel arfer ar agor bob dydd.
Os ydych chi (fel arfer oherwydd tywydd gwael) yn dod o hyd i'r eglwys dan glo, mae allwedd yng Nghaffi Maes.

Cyfeiriad

end of Beach Road
Llandanwg
Gwynedd
LL46 2SD

Mae’r eglwys bresennol, sy’n sefyll ar y blaendraeth rhyw 20 medr o’r marc penllanw, yn adeilad o’r cyfnod canoloesol cynnar.  Oddi fewn iddi, ceir tair carreg ag arysgrifen sy’n dyddio o’r bumed a’r chweched ganrif, a dwy garreg â chroes wedi ei hendorri arnynt. Yn y fynwent mae bedd y bardd Sion Phillips, un o gyfoedion Shakespeare a oedd yn byw yn Ynys Fochras gerllaw; cafodd ei foddi wrth iddo groesi o’r ynys i Landanwg yn 1620.

Mae’r adeilad ei hun yn 57 troedfedd o hyd a 23 troedfedd o led, wedi’i godi o rwbel, ac â chorff a changell di-dor. Adeiladwyd y corff tua’r drydedd ganrif ar ddeg ac ehangwyd y gangell yn gynnar yn y bymthegfed ganrif, pan osodwyd ynddi ffenestr ddwyreiniol anghyffredin o uchel. Mae’r to yn wreiddiol ac yn cynnwys tair ffrâm goler gyda bwâu cynnal dwyreiniol. Mewn cyfnod diweddarach, gosodwyd byrddau pren arnynt – a chofnodir eu bod wedi eu haddurno â lluniau. Mae braslun o’r cyfnod yn dangos lluniau o symbolau awduron Efengylau’r Testament Newydd, ac angel a diafol hwyliog wyneb yn wyneb â’i gilydd.

Mae’r colofnfaen wyth troedfedd o hyd sy’n gorwedd wrth yr allor o ddiddordeb arbennig gan ei fod yn dyddio o’r bumed ganrif  - ac wedi dod o bosib o Fryniau Wicklow yn Iwerddon. Cafodd y garreg, sy’n pwyso tri chwarter tunnell, ei symud o’r fynwent i mewn i’r eglwys yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg.

Gosodwyd croglen dderw yn yr eglwys, yn fwy na thebyg yn ystod y bymthegfed ganrif. Mae’r trawst croes yn ei le o hyd, ac mae olion galeri o gyfnod diweddarach yn y pen gorllewinol. Pan adeiladwyd eglwys y plwyf newydd yn nhref Harlech ei hun yn 1840, cefnwyd yn llwyr ar eglwys St Tanwg – ond ni pheidiodd â bod yn fan arbennig, lle roedd modd dod o hyd i Dduw yn ei cherrig hynafol a’i harddwch di-nod. 

  • Gwasanaethau Haf Anffurfiol bob dydd Sul 6.30pm rhwng diwedd Mehefin a diwedd Awst.

  • Caneuon Canmoliaeth ar y Maes 3pm Awst Mae Dydd Sul Gŵyl y Banc yn ddigwyddiad blynyddol.

  • Cynhelir gwasanaethau cyfoes ar y 3ydd dydd Sul o'r mis rhwng 6.30pm Medi a Mehefin.

  • Diwrnodau tawel a gwasanaethau yn ystod yr wythnos i grwpiau trwy drefniant.

  • Church in Wales

Contact information

Other nearby churches

St Peris

Nant Peris, Gwynedd

Sefydlwyd yr eglwys gan St Peris yn y chweched ganrif, yng nghesail copaon ‘Yr Wyddfa a’i chriw’.

Sant Tydecho

Mallwyd, Powys

Eglwys a sefydlwyd gan Sant Tydecho yn y 6g ar ôl iddo ddod i'r ardal o Gernyw.

Sant Baglan

Llanfaglan, Gwynedd

Mae eglwys Sant Baglan (neu Hen Eglwys Llanfaglan) yn sefyll mewn safle godidog yn edrych dros Fae Caernarfon gyda chwedlau’r Mabinogi’n ddiasbedain drwyddo draw.