Santes Fair

Mae Eglwys St Mair yn adeilad unigryw sydd â’r fraint o fod yn berchen ar nifer o enghreifftiau o gelfyddyd a ffenestri lliw cyfoes a thrawiadol.

Abertawe, Glamorgan

Oriau agor

Ar agor yn ddyddiol rhwng 10am a hanner dydd.

Cyfeiriad

Sgwâr y Santes Fair
Abertawe
Glamorgan
SA1 3LP

Addaswyd yr adeilad nifer o weithiau dros y blynyddoedd, ond yr hyn a welir heddiw yw eglwys  a gynlluniwyd gan Syr Arthur Blomfield, yn yr Arddull Gothig Seisnig Gynnar.

Addurnwyd y tu mewn yn ystod blynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif, ond yn drist iawn, llosgwyd yr eglwys bron i’r llawr yn ystod Chwefror 1941 yn dilyn ymgyrchoedd bomio yr Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cymerodd hyd 1959 i’w chynllunio a’i hailadeiladu bron yn ei chyfanrwydd. Mae eglwys St Mair yn meddu ar undod celfyddydol prin, diolch i weledigaeth wych dau ficer yn eu tro, sef Jack Thomas a Harry Williams.

Contact information

Other nearby churches

Jerusalem Independent Chapel

Burry Port, Carmarthenshire

Capel unigryw a sefydlwyd yn 1812 gyda nodweddion hyfryd Art Nouveau a hanes diddorol.

St Gwynno

Llanwynno, Glamorgan

Mae St Gwynno yn eglwys ganoloesol ar safle hynafol. Mae dwy groes garreg gynnar yn rhan o adeiladwaith y wal ddeheuol, ac yn y fynwent, mae bedd y rhedwr cyflym enwog, Guto Nyth Brân.

Cadeirlan Aberhonddu

Aberhonddu, Powys

Mae’r Gadeirlan yn estyn croeso i bawb sy’n dod heibio – boed os ydych yn dwrist sy’n ymweld, yn addolwr sydd yno i offrymu eich gweddïau personol neu i oleuo cannwyll, neu yn rhywun sydd â diddordeb arbennig mewn hanes, pensaernïaeth neu ffenestri lliw.