GwyneddNANTPERISStPeris(sarahcrosslandSTAFF)2 SarahCrossland

St Peris

Sefydlwyd yr eglwys gan St Peris yn y chweched ganrif, yng nghesail copaon ‘Yr Wyddfa a’i chriw’.

Nant Peris, Gwynedd

Oriau agor

Ar agor bob dydd rhwng 9am a 4pm.

Cyfeiriad

Nant Peris
Gwynedd
LL55 4UE

Gerllaw’r fynwent, mae Ffynnon y Sant – a chredwyd bod y dŵr ynddi â’r gallu i iachau. Cadwyd dau bysgodyn ynddi. Os daethant o’u cuddfan at wyneb y dŵr, roedd hyn yn argoel ffafriol, felly roedd rhai ymwelwyr yn gollwng abwydau i’r dŵr i geisio denu’r pysgod i’r golwg. Credwyd bod rhai afiechydon yn cael eu gwella wrth i’r claf ymdrochi yn y dŵr, yn enwedig os oedd y pysgod yn dod i’r wyneb ar yr un pryd. I drin afiechydon eraill, roedd yn rhaid i’r claf yfed y dŵr.

Mae gan yr eglwys gyplau to o’r bymthegfed ganrif a chroglen o’r un cyfnod. Credwyd bod y blwch elusen (arian ar gyfer y tlodion), sydd wedi ei gerfio ym môn y groglen yn dod o’r ddeunawfed ganrif.

Mae cofeb yn yr eglwys sy’n deyrnged i Griffith Ellis, Hafoty, a fu farw yn 75 oed yn 1860 ar ôl iddo dreulio 46 o flynyddoedd yn arolygu chwareli llechi Dinorwig ger Llanberis. Cynyddodd nifer y gweithwyr o 300 i fwy na 2,400 yn ystod ei gyfnod fel rheolwr ac mae ei fedd i’w gweld yn y fynwent. Mae chwarelwr nodedig arall, Owen Griffith, wedi’i gladdu yno hefyd.  Bu farw yn 89 yn 1908. Oherwydd amodau gwaith gwael, e.e. damweiniau, effaith llwch ar yr ysgyfaint a’r rheidrwydd i weithio ym mhob tywydd yn yr awyr agored, roedd y disgwyliad oes cyfartalog ar gyfer chwarelwyr yn isel.  Eto’i gyd, gweithiodd Owen yn chwareli Dinorwig am bron i 80 mlynedd! Yr unig dro y cafodd hoe o’r chwarel oedd yn ystod y 1840au, pan gynorthwyodd gyda chloddio twnnel ar gyfer y rheilffordd ym Mhenmaenmawr.

Mae peth o’r hen lwybr a ddefnyddiwyd gan addolwyr Llanberis yn dal i’w weld heddiw. I’r gorllewin i’r eglwys, mae’r llwybr yn croesi Afon Nant Peris ar hyd pont a godwyd, yn ôl y sôn, gyda chymorth Marged ferch Ifan, merch a oedd yn meddu ar gryfder anarferol. Mae’n debyg bod Marged yn arfer rhwyfo mwyn copr o Nant Peris i Gwm y Glo - pellter o 7km. Roedd hi’n arfer clymu ei chwch wrth biler carreg –  a enwyd mewn teyrnged annwyl iddi, yn ‘Biler Marged’.  Fe’i diddymwyd pan atgyweiriwyd y llyn wrth adeiladu gorsaf bŵer Dinorwig yn y 1980au.

  • Church in Wales

Contact information

Other nearby churches

Eglwys Crist

Llandinorwig, Gwynedd

Wedi'i leoli ar y ffordd sy'n arwain at Dinorwig, gyda golygfeydd godidog o'r bryniau a'r mynyddoedd o gwmpas.

St Tysilio

Porthaethwy, Anglesey

Mae eglwys St Tysilio wedi sefyll ar yr ynys ers y 1400au, eto’i gyd, nid oes unrhyw syniad pwy a’i hadeiladodd - na chwaith paham.

Sant Baglan

Llanfaglan, Gwynedd

Mae eglwys Sant Baglan (neu Hen Eglwys Llanfaglan) yn sefyll mewn safle godidog yn edrych dros Fae Caernarfon gyda chwedlau’r Mabinogi’n ddiasbedain drwyddo draw.