Mae gwerth yr eglwys ddirodres ond swynol hon yn y ffaith ei bod wedi goroesi fel eglwys Anglicanaidd Sioraidd diweddar, yn siambr sengl gwbl gyflawn gyda seddau ‘blwch’ a ffenestri Gothig. Nodweddion mwyaf deniadol yr eglwys yw’r ddarllenfa a’r pulpud paentiedig a phanelog. Mae’r pulpud mor uchel, mae ei seinfwrdd bron â chyffwrdd â’r nenfwd.
Mae yno set gyflawn o seddau blwch, a chofeb anghyffredin o gywrain i’w gweld o hyd ar y wal ddwyreiniol. Mae’r gofeb hon er cof am Morris Williams o Cwmgloyne ym mhlwyf Nyfer, a fu farw yn 1840. Gwelir yno hefyd fedyddfaen sgwâr cymharol ddinod sy’n dod o’r ddeuddegfed ganrif. Mae’r eglwys wedi’i rhestru’n adeilad Gradd II*.