Sant Figael
Llanfigael, Anglesey
Mae’r eglwys hon yn edrych fel ysgubor o’r tu allan, ond unwaith y mentrwch y tu mewn, fe welwch ei bod yn uned gyflawn sy’n deillio o’r cyfnod Sioraidd diweddar.
Dim ond ar droed bellach y gellir cyrraedd hen eglwys Llantrisant.
Llantrisant, Anglesey
Yn 1899, adeiladwyd eglwys Fictoraidd newydd ychydig i’r dwyrain i gymryd ei lle, ac er pob ymdrech ar ran yr hen eglwys i ddal ati, roedd angen gwaith atgyweirio sylweddol arni. O ganlyniad, daeth yn un o’r eglwysi cyntaf i ddod o dan adain y Cyfeillion Eglwysi Digyfaill yn 1978.
Ceir cyfeiriad at yr eglwys yn y Valuation of Norwich yn 1254 fel yr Ecclesia de Lannsann. Mae’r adeilad presennol yn dyddio o’r bedwaredd ganrif ar ddeg, gyda’i chapel deheuol hynod ar ffurf ‘L’ , yn cael ei ychwanegu yn yr ail ganrif ar bymtheg. Y bedyddfaen yw nodwedd hynaf yr eglwys, yn dod o ddiwedd y deuddegfed ganrif neu ddechrau’r drydedd ganrif ar ddeg. Mae o dras Seisnig ac wedi ei achub o eglwys ganoloesol yn Grove, Swydd Buckingham. Mae yna hefyd ddwy gofeb baróc hynod o soffistigedig, un o 1669 a’r llall o 1670, nodweddion hollol annisgwyl mewn lleoliad gwerinol.
Mae’r fynwent gymharol fechan yn llawn beddau ac yn cael ei hamgylchynu gan wal derfyn mor uchel ,mae’n rhoi’r argraff ei bod yno i’w hamddiffyn. Mae’n bosib mai’r awyrgylch cyfriniol sy’n peri i’r eglwys anghysbell hon fod yn un o eglwysi mwyaf poblogaidd y Cyfeillion Eglwysi Digyfaill, gan fod y bobl sy’n cerdded ar hyd y llwybr troed gerllaw yn cael eu cyfareddu gan swyn y fangre ddirgel, ac yn cael eu hudo i gamu i mewn.
Llanfigael, Anglesey
Mae’r eglwys hon yn edrych fel ysgubor o’r tu allan, ond unwaith y mentrwch y tu mewn, fe welwch ei bod yn uned gyflawn sy’n deillio o’r cyfnod Sioraidd diweddar.
Llanbeulan, Anglesey
Mae Sant Peulan yn tarddu o’r Oesoedd Canol, a saif ar ei phen ei hun ar derfyn ei sarn werdd uchel. I’w chyrraedd, mae’n rhaid troi oddi ar yr heol sydd ag arwydd am Dothan.
Llanbadrig, Anglesey
Mae eglwys St Padrig yn sefyll yn un o olygfeydd prydferthaf Ynys Môn; mae’n fangre i fyfyrio, lle mae tangnefedd yn teyrnasu.