AngleseyLLANFIGAELStFigael(sarahcrosslandSTAFF)1 SarahCrossland

Sant Figael

Mae’r eglwys hon yn edrych fel ysgubor o’r tu allan, ond unwaith y mentrwch y tu mewn, fe welwch ei bod yn uned gyflawn sy’n deillio o’r cyfnod Sioraidd diweddar.

Llanfigael, Anglesey

Oriau agor

Eglwys ar agor yn ddyddiol.

Cyfeiriad

Llanfigael
Anglesey
LL65 4DB

Mae’r tu mewn hyd yn oed yn fwy Sioraidd ei naws ers i’r Cyfeillion Eglwysi Digyfaill osod ffenestri pren newydd, sy’n debyg i’r rhai a arferai fod yno.

Mae’r eglwys yn tarddu o’r ddeunawfed ganrif, ond cafodd cyfran sylweddol ohoni ei hailadeiladu yn 1841. Mae ganddi dri bedyddfaen, gyda’r cynharaf yn dod o’r bedwaredd ganrif ar ddeg.

Mae’r eglwys yn dal i sefyll, diolch i ymdrechion un dyn, sef y Parchedig Edgar Jones. Gofalodd am yr eglwys am oddeutu ugain mlynedd, cyn i’r cyfle ddod i’w throsglwyddo i’r Cyfeillion Eglwysi Digyfaill. Mae’n hynod drist ei fod wedi marw wrth i’r gwaith atgyweirio ddod i ben.

Contact information

Other nearby churches

Sant Peulan

Llanbeulan, Anglesey

Mae Sant Peulan yn tarddu o’r Oesoedd Canol, a saif ar ei phen ei hun ar derfyn ei sarn werdd uchel. I’w chyrraedd, mae’n rhaid troi oddi ar yr heol sydd ag arwydd am Dothan.

Sant Mair

Tal y Llyn, Anglesey

Mae eglwys St Mair, Tal y Llyn yn sefyll mewn mynwent helaeth iawn, ac oherwydd hyn mae’n ymddangos yn fechan iawn.