CeredigionMWNTChurchHolyCross(©crowncopyright2020)2 ©CrownCopyright2020

Cael Cymorth: Cymru

Croeso

Rydym am eich cefnogi chi i gadw eich eglwys, eich capel neu’ch tŷ cyfarfod ar agor, ei gynnal mewn cyflwr da a sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio. Ar y dudalen hon, gwelwch ddolenni i adnoddau a hyfforddiant i'ch helpu chi i wneud hyn.

Cysylltu â ni

Diolch i gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, mae gennym swyddog cymorth penodedig, wedi’i leoli yng Nghymru, sydd wrth law i’ch helpu gyda chyngor a hyfforddiant. Gallwch chi e-bostio Gareth yn: Gareth.Simpson@nationalchurchestrust.org

Gareth Simpson, of the National Churches Trust, standing in front of a stone wall
Gareth Simpson

Dewch i gwrdd â Gareth

“Shwmae, rwy’n byw yn Ne Cymru, gyda chysylltiadau cryf â Cheredigion a Sir Benfro. Cymro Cymraeg ail iaith ydw i, gyda gwybodaeth dda o Gymru gyfan, o fynd ar daith a cherdded ar y bryniau, sy’n ddiddordeb brwd. Mae gen i 20 mlynedd o brofiad o waith cefnogi a datblygu cymunedol, gan weithio gyda phrosiectau llawr gwlad a gwirfoddolwyr. Mae hyn yn cynnwys y sectorau ffydd, cefn gwlad, bwyd a diod, gofal plant ac addysg. Rwy’n edrych ymlaen at fynd allan a chwrdd â chi yn eich eglwys, eich capel a’ch cymuned.”

Sut gallwn ni eich helpu chi

MonmouthshireABERGAVENNYStMary(explorechurches.org)6

Dewch i wybod rhagor am ein grantiau

P'un a ydych am atgyweirio'ch to, gosod cegin neu doiledau hygyrch, clirio asbestos, neu ddim ond angen cymorth i wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol rheolaidd i'ch adeilad, rydym yn cynnig amrywiaeth o grantiau i weddu i faint ac anghenion eich prosiect. Mae gennym hefyd grant Cherish arbennig – a grëwyd yn arbennig i helpu addoldai yng Nghymru.

SUPPORTNortonJuxtaTwycrossSHolyTrinity(paulinebeePERMISSIONBYEMAIL)1
PaulineBee

Cyngor am gynnal a chadw a phrosiectau

O sut i ddatblygu a rheoli prosiect adeiladu eglwysig, i gadw’ch eglwys mewn cyflwr da trwy waith cynnal a chadw rheolaidd, gallwch ddysgu mwy am y pethau hanfodol mae angen i chi eu gwneud er mwyn gofalu am eich adeilad eglwysig.

LincolnshireTATTERSHALLHolyTrinity(explorechurches.org)10
ExploreChurches

Cymorth gyda thwristiaeth

Adeiladwyd llawer o eglwysi, capeli a thai cyfarfod i fod wrth galon eu cymunedau; i fod yn brysur a chael eu defnyddio gan bawb. Mae llawer o ffyrdd o sicrhau bod hyn yn dal yn wir. Cyfle i gael gwybod sut i greu croeso perffaith, adrodd eich stori a mwy.

What's on

Ar-lein: Sut i Ddarllen Eich Eglwys

Ar-lein: Sut i Ddarllen Eich Eglwys, 15 Ebrill 2025. Mae pob eglwys, capel a thŷ cyfarfod wedi mynd trwy gamau adeiladu a datblygu dros amser. Darganfyddwch sut i adnabod y manylion pensaernïol hyn, a chamwch yn ôl mewn amser gyda ni i weld sut y gallai eglwys blwyf nodweddiadol fod wedi edrych ar wahanol adegau yn ei bywyd.

Sut rydyn ni'n helpu mannau addoli

PowysMALLWYDStTydecho(explorechurches.org)23
ExploreChurches

For Churches

Mae 'For Churches', ein strategaeth newydd, yn gynllun uchelgeisiol sy'n nodi'r ffyrdd y byddwn yn cefnogi eglwysi ar draws y DU am y tair blynedd nesaf.

Saint Mary Beddgelert
Ioan Said and National Churches Trust

Ymunwch â'n grŵp Facebook ar gyfer eglwysi yng Nghymru

Mae’r gymuned hon ar gyfer pobl sy’n gwirfoddoli, gofalu a gweithio i eglwysi, capeli neu dai cyfarfod yng Nghymru, yn ogystal â phobl a sefydliadau sydd am gefnogi’r mannau addoli hyn i fod mewn cyflwr da ac mewn defnydd. Os mai chi yw hwn, byddem wrth ein bodd pe baech chi’n ymuno ac yn helpu i gadw'r adeiladau hyn mewn cyflwr da ac yn agored i bawb.

National Lottery Heritage Fund acknowledgement stamp in Welsh