CityofBristolREDCLIFFEStMary(IoanSaid&NCT)17.jpg IoanSaid

Mae Pob Eglwys o Bwys

Mae gan y DU rai o’r eglwysi, capeli ac addoldai mwyaf hanesyddol a hardd sydd i’w cael yn unrhyw le yn y byd. Ond mae llawer mewn perygl o gau am byth os na chymerir camau brys. 

  • Yn Lloegr, mae 900 o addoldai ar Gofrestr Treftadaeth Mewn Perygl Historic England ar hyn o bryd – gyda 53 yn fwy wedi’u hychwanegu yn 2023.
  • Yng Nghymru, mae 25 y cant o eglwysi a chapeli hanesyddol wedi cau yn y degawd diwethaf.
  • Mae Eglwys yr Alban yn bwriadu cau cymaint â 30-40 y cant o'i heglwysi.

Yn yr Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol, rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi adeiladau eglwysig mewn angen. Gallwch chi ein helpu ni i fod yma i bob eglwys – a’r bobl a’r cymunedau sy’n dibynnu arnyn nhw. 

Gwyliwch y fideo i ddysgu mwy

Mae Pob Eglwys o Bwys – glasbrint o sut y gellir achub eglwysi ar gyfer y dyfodol 

Gyda channoedd o eglwysi yn wynebu cael eu cau, mae angen cynllun cenedlaethol ar frys i helpu i sicrhau eu dyfodol. Rydym yn galw ar Lywodraeth y DU, sefydliadau treftadaeth ac enwadau Cristnogol i gydweithio i fynd i’r afael â her dreftadaeth unigol fwyaf y DU.
Ein cynllun yw man cychwyn sgwrs genedlaethol ar ddyfodol adeiladau eglwysig. A byddem wrth ein bodd pe baech chi yn rhan ohono.

Cymerwch ran

Image of workmen on scaffolding around a church
David Osborne Broad

Dysgwch fwy am y chwe phwynt

Crynodeb byr o’r chwe phwynt yn y maniffesto, pam maen nhw’n bwysig a sut y gallwch chi ddangos eich cefnogaeth.

Beth y gallwch chi ei wneud i helpu

The Houses of Parliament, as seen from across the River Thames
Tm CC-BY

Dywedwch wrth eich AS i ofyn am ddadl yn Neuadd San Steffan

Mae eich AS yno i’ch cynrychioli chi yn y senedd, felly mae’n bwysig ei fod/ei bod yn gwybod bod eglwysi a’u dyfodol yn bwysig i chi. Gofynnwch i’ch AS ofyn am ddadl yn Neuadd San Steffan ar y mater o achub adeiladau eglwysig y DU. Bydd y ddadl hon yn helpu i sicrhau bod y pwnc pwysig hwn yn aros ar radar Llywodraeth y DU ac yn dod â mwy o gyhoeddusrwydd a sylw iddo.

Mae gwahanol ffyrdd y gallwch ddweud wrth eich AS bod dyfodol eglwysi’n bwysig ichi. Gallwch chi:

• Anfon e-bost neu ysgrifennu ato/ati
• Ei g/wahodd i’ch eglwys
• Ymweld ag ef/hi yn ystod oriau agor ei swyddfa etholaethol

Dysgwch pwy yw eich AS lleol a sut i gysylltu ag ef/hi
A graphic featuring a stained glass window and the text Every Church Counts

Rhannwch Mae Pob Eglwys o Bwys ar y cyfryngau cymdeithasol a gyda’ch cysylltiadau

Y ffordd orau o ddechrau sgwrs genedlaethol yw annog pawb i gymryd rhan. Allwch chi helpu? Byddem wrth ein bodd pe baech yn dangos eich cefnogaeth i Mae Pob Eglwys o Bwys ar y cyfryngau cymdeithasol a gyda’ch teulu, eich ffrindiau, eich cydweithwyr a’ch eglwysi.

Rhannwch y dudalen we hon a pham rydych yn cefnogi adeiladau eglwysig gan ddefnyddio’r hashnod #MaePobEglwysOBwys

Gallwch hefyd lawrlwytho graffigau i’w rhannu yma